Ail Lyfr y Cronicl 28
1Adafydd a gynullodd holl dywysogion Israel, tywysogion y llwyth¬au, a thywysogion y dosbarthiadau, y rhai oedd yn gwasanaethu’r brenin, tywysogion y miloedd hefyd, a thywys¬ogion y cannoedd, a thywysogion holl olud a meddiant y brenin, a’i feibion, gyda’r ystafellyddion, a’r cedyrn, a phob un grymusol o nerth, i Jerwsalem. º
2A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed, ac a ddywedodd, Gwrandewch arnaf fi, fy mrodyr, a’m pobl; Myfi a feddyliais yn fy nghalon adeiladu tŷ gorffwysfa i arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac i ystol draed ein Duw ni, a mi a baratoais tuag at adeiladu. º
3Ond DUW a ddywedodd wrthyf, Nid adeiledi di dy i’m henw i, canys rhyfelwr fuost, a gwaed a dywelltaist. º
4Er hynny ARGLWYDD DDUW Israel a’m hetholodd i o holl dy fy nhad, i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd: canys Jwda a ddewisodd efe yn llywiawdwr; ac o dŷ Jwda, tŷ fy nhad i; ac o feibion fy nhad, efe a fynnai i mi deyrnasu ar holl Israel: º
5Ac o’m holl feibion innau, (canys llawer o feibion a roddes yr ARGLWYDD i mi,) efe hefyd a ddewisodd Solomon fy mab, i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth yr ARGLWYDD, ar Israel. º
6Dywedodd hefyd wrthyf, Solomon dy fab, efe a adeilada fy nhŷ a’m cynteddau i; canys dewisais ef yn fab i mi, a minnau a fyddaf iddo ef yn dad. º
7A’i frenhiniaeth ef a sicrhaf yn dragywydd, os efe a ymcgma i wneuthur fy ngorchmymon a’m barnedigaethau i, megis y dydd hwn. º
8Yn awr gan hynny, yng ngŵydd holl Israel, cynulleidfa yr ARGLWYDD, a lle y clywo ein Duw ni, cedwch a cheisiwch holl orchmymon yr ARGLWYDD eich Duw, fel y meddiannoch y wlad dda hon, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion ar eich ôl yn dragywydd. º
9A thithau Solomon fy mab, adne-bydd DDUW dy dad, a gwasanaetha ef a chalon berffaith, ac a meddwl ewyllysgar: canys yr ARGLWYDD sydd yn Chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a’i cei; ond os gwrthodi ef, efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd. º
10gwêl yn awr mai yr ARGLWYDD a’th ddewisodd di i adeiladu tŷ y cysegr? yrngryfha, a gwna. º
11Yna y rhoddes Dafydd i Sblomon ei fab bortreiad y porth, a’i dai, a’i selerau, a’i gellau, a’i ystafelloedd oddi fewn, a thŷ y drugareddfa, º
12A phortreiad yr hyn oll a oedd ganddo trwy yr ysbryd, am gynteddau tŷ yr ARGLWYDD, ac am yr holl ystafelloedd o amgylch, am drysorau tŷ DDUW, ac am drysorau y pethau cysegredig: º
13Ac am ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, ac am holl waith gweinidogaeth tŷ yr ARGLWYDD, ac am holl lestri gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD. º
14Efe a roddes o aur wrth bwys, i’r pethau o aur, tuag at holl lestri pob gwasanaeth, ac arian i’r holl lestri arian, mewn pwys, tuag at holl lestri pob math ar wasanaeth: º
15Sef pwys y canwyllbrenni aur, a’u lampau aur, wrth bwys i bob canhwyll-bren ac i’w lampau: ac i’r canwyll-brennau arian wrth bwys, i’r canhwyll-bren ac i’w lampau, yn ôl gwasanaeth pob canhwyllbren. º
16Aur hefyd dan bwys, tuag at fyrddau y bara gosod, i bob bwrdd; ac arian i’r byrddau arian; º
17Ac aur pur i’r cigweiniau, ac i’r phïolau, ac i’r dysglau, ac i’r gorflychau aur, wrth bwys pob gorflwch: ac i’r gorflychau arian wrth bwys pob gorflwch; º
18Ac i allor yr arogl-darth, aur pur wrth bwys; ac aur i bortreiad cerbyd y cerubiaid oedd yn ymledu, ac yn gorchuddio arch cyfammod yr ARGLWYDD. º
19Hyn oll, ebe Dafydd, a wnaeth yr ARGLWYDD i mi ei ddeall mewn ysgrifen, trwy ei law ef arnaf fi, sef holl waith y portreiad hwn. º
20A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab, Ymgryfhâ, ac ymegnïa, a gweithia; nac ofna, ac na arswyda: canys yr ARGLWYDD DDUW, fy Nuw i, fydd gyd â thi; nid ymedy efe â thi, ac ni’th wrthyd, nes gorphen holl waith gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD. º
21Wele hefyd ddosparthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, i holl wasanaeth tŷ DDUW, a chyd â thi y maent yn yr holl waith, a phob un ewyllysgar cywraint i bob gwasanaeth; y tywysogion hefyd a’r bobl oll fyddant wrth dy orchymyn yn gwbl.