1 Corinthians 2:13
Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid â’r geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân; gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Acts 2:4A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd.
1 Corinthians 2:1A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw.
1 Corinthians 2:14Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt.
1 Corinthians 10:3A bwyta o bawb ohonynt yr un bwyd ysbrydol;:.
1 Corinthians 14:2Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, ond wrth Dduw; canys nid oes neb yn gwrando; er hynny yn yr ysbryd y mae efe yn llefaru dirgeledigaethau.
Colossians 3:16Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i'r Arglwydd.