1 John 2:11
Eithr yr hwn sydd yn casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio; ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, oblegid y mae’r tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Yr hwn sydd yn caru ei frawd, sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes rhwystr ynddo.
12Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, blant bychain, oblegid maddau i chwi eich pechodau er mwyn ei enw ef.
Cross References
Proverbs 4:19Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.
John 12:40Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi en hiacháu hwynt.
2 Corinthians 4:4Yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y rhai di-gred, fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw.
1 John 1:6Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd:
Revelation 3:17Oblegid dy fod yn dywedyd, Goludog wyf, ac mi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim; ac ni wyddost dy fod yn druan, ac yn resynol, ac yn diawd, ac yn ddall, ac yn noeth.