1 John 5:10
Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, sydd ganddo’r dystiolaeth ynddo ei hun:yr hwn nid yw yn credu yn Nuw, a’i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11A hon yw’r dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef.
Cross References
Numbers 23:19Nid dyn yw Duw, i ddywedyd celwydd; na mab dyn, i edifarhâu: a ddywedodd efe, ac nis cyflawna? a lefarodd efe, ac oni chywira?
Isaiah 53:1PWY a gredodd i’n hymadrodd.? ac i bwy y datguddiwyd braich yr ARGLWYDD? º
John 3:16Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.
John 5:38Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo.
Romans 8:16Y mae’r Ysbryd hwn yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw: