Llyfr Numeri 23:19
Nid dyn yw Duw, i ddywedyd celwydd; na mab dyn, i edifarhâu: a ddywedodd efe, ac nis cyflawna? a lefarodd efe, ac oni chywira?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
20Wele, cymmerais arnaf fendithio; a bendithiodd efe; ac ni throaf fi hynny yn ei ol.
Cross References
Numbers 14:35Myfi yr Arglwydd a leferais, dïau y gwnaf hyn i’r holl gynnulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i’m herbyn i: yn y diffaethwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw.
1 Samuel 3:12Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef, gan ddechrau a diweddu ar unwaith.
1 Kings 14:11Y cwn a fwyty yr hwn fyddo farw o eiddo Jeroboam yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo farw yn y maes: canys yr ARGLWYDD a’i dywed¬odd. º
2 Kings 15:12Dyma air yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe wrth Jehu, gan ddywedyd, Meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel. Ac felly y bu. º
Psalms 77:9Pan gyfododd DUW i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela.