Ail Lyfr y Brenhinoedd 12:18
A’r brenin Rehoboam a anfonodd Adoram, yr hwn oedd ar y dreth; a holl Israel a’i llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw. Am hynny y brenin Reho¬boam a brysurodd i fyned i’w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
17Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy. º
19Felly Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn. º
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 12
Cross References
Numbers 14:10A’r holl dorf a ddywedasant am en llabyddio hwynt â meini. A gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.
1 Kings 4:6Ac Ahisar oedd benteulu; ac Adoniram mab Abda, ar y deyrnged.
1 Kings 20:18Ac efe a ddywedodd, Os am heddwch y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw, ac os i ryfel y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw. º
2 Chronicles 24:21A hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a’i llabyddiasant ef â meini wrth orchymyn y brenin, yng nghyntedd tŷ yr ARGLWYDD.
Amos 2:16A’r cryfaf ei galon o’r cedyrn a ffy y dwthwn hwnnw yn noeth lymun medd yr ARGLWYDD.
Acts 7:57Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno,