Ail Lyfr y Brenhinoedd 14:15
Canys yr ARGLWYDD a dery Israel, megis y siglir y gorsen mewn dwfr; ac a ddiwreiddia Israel o’r wlad dda hon a roddodd efe i’w tadau hwynt, ac a’u gwasgar hwynt tu hwnt i’r afon; oher¬wydd gwneuthur ohonynt eu llwyni, gan annog yr ARGLWYDD i ddigofaint. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 14
Cross References
Leviticus 26:32A mi a ddinystriaf y tir; fel y byddo aruthr gan eich gelynion, y rhai a drigant ynddo, o’i herwydd.
Deuteronomy 4:26Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddyw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir.
Deuteronomy 28:36Yr Arglwydd a’th ddwg di, a’th frenhin a osodych arnat, at genedl nid adnabuost ti na’th dadau di; a gwasanaethi yno dduwiau dïeithr, pren a maen.
Deuteronomy 29:24Ië, yr holl genhedloedd a ddywedant, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r tir hwn? pa ddigter yw y digofaint mawr hwn?
Joshua 23:15Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.
1 Kings 14:9Ond a wnaethost ddrwg y tu hwnt i, bawb a fu o’th flaen di; ac a aethost ac a wnaethost i ti dduwiau dieithr, a delwau toddedig, i’m digio i, ac a’m teflaist i o’r tu ôl i’th gefn: º