Ail Lyfr y Brenhinoedd 21:21
Wele fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di, ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r gweddilledig yn Israel: º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 21
Cross References
Deuteronomy 32:36Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a edifarhâ am ei weision; pan welo ymadaw o’ u nerth, ac nad oes na gwarchaëedig, na gweddilledig.
1 Samuel 25:34Canys yn wir, fel y mae ARGLWYDD DDUW Israel yn fyw, yr hwn a’m hataliodd i rhag dy ddrygu di, oni buasai i ti frysio a dyfod i’m cyfarfod, diau na adawsid i Nabal, erbyn goleuni y bore, un a bisai ar bared. º
1 Kings 15:30Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio ARGLWYDD DDUW Israel. º
2 Kings 9:8Canys holl dy Ahab a ddifethir: a mi a dorraf ymaith oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r hwn a adawyd yn Israel. º
2 Kings 10:11Felly Jehu a drawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Jesreel, a’i holl benaethiaid ef, a’i gyfneseifiaid ef, a’i offeiriaid, ‘fel na adawyd un yng ngweddill. º
2 Kings 10:30A’r ARGLWYDD a ddywedodd with Jehu, Oherwydd i ti wneuthur yn dda, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, yn ôl yr hyn oll a’r a oedd yn fy nghalon i y gwnaethost i dŷ Ahab, meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfainc Israel. º