Ail Lyfr y Brenhinoedd 21
1Adigwyddodd ar ol y pethau hyn, fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliady yr hon oedd yn Jesreel, wrth balas Ahab brenin Samaria. º
2Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth, gan. ddywedyd, Dyro i mi dy winllan, fel y byddo hi i mi yn ardd lysiau, canys y’ mae hi yn agos i’m tŷ i: a mi a roddaf i ti amdani hi winllan well na hi; neu, os da. fydd gennyt, rhoddaf i ti ei gwerth hi ycB arian. º
3A Naboth a ddywedodd wrth Ahab,; Na ato yr ARGLWYDD i mi roddi treftadaeth fy hynafiaid i ti. º
4Ac Ahab a ddaeth i’w dŷ yn athrist ac yn ddicllon, oherwydd y gair a lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef; canys efe a ddywedasai, Ni roddaf i ti dreftadaeth fy hynafiaid. Ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drodd ei wyneb ymaith, ac m fwytai fara. º
5Ond Jesebel ei wraig a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Paham y mae’ dy ysbryd mor athrist, ac nad wyt yn bwyta bara? º
6Ac efe a ddywedodd wrthi, Oherwydd. i mi lefaru wrth Naboth y Jesreeliad, a dywedyd wrtho, Dyro i mi dy winllan er arian: neu, os mynni di, rhoddaf i ti winllan amdani. Ac efe a ddywedodd, Ni roddaf i ti fy ngwinllan. º
7A Jesebel ei wraig a ddywedodd wrtho, Ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel? cyfod, bwyta fara, a llawenyched dy galon; myfi a roddaf i ti winllan Naboth y Jesreeliad. º
8Felly hi a ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, ac a’u seliodd a’i sel ef, ac a; anfonodd y llythyrau at yr henuriaid, ac at y penaethiaid oedd yn. ei ddinas yn. trigo gyda Naboth.’ º
9A hi a ysgrifennodd yn y llythyrau, gan ddywedyd, Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth uwchben y bobl. º
10Cyflewch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn âg ef, i dystiolaethu i’w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist DDUW a’r brenin. Ac yna dygwch efallan, a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw. º
11A gwŷr ei ddinas, sef yr henuriaid a’r penaethiaid, y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef, a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasai Jesebel atynt hwy, ac yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy. º
12Cyhoeddasant ympryd, a chyfleasant Naboth uwchben y bobl. º
13A dau ŵr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, gerbron y bobl, gan ddywedyd, Naboth a gablodd DDUW a’r brenin. Yna hwy a’i dygasant ef allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw. º
14Yna yr anfonasant hwy at Jesebel, gan ddywedyd, Naboth a labyddiwyd, ac a fu farw. º
15A phan glybu Jesebel labyddio Naboth, a’i farw, Jesebel a ddywedodd wrth Ahab, Cyfod, perchenoga winllan Naboth y Jesreeliad yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian; canys nid byw Naboth, eithr marw yw. º
16A phan glybu Ahab farw Naboth, Ahab a gyfododd i fyned i waered i win¬llan Naboth y Jesreeliad, i gymryd meddiant ynddi. º
17A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, º
18Cyfod, dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn sydd yn Samaria: wele efe yng ngwinllan Naboth, yr hon yr aeth efe i waered iddi i’w meddiannu. º
19A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, A leddaist ti, ac a feddiennaist hefyd? Llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Yn y fan lle y llyfodd y cwn waed Naboth, y llyf cwn dy waed dithau hefyd. º
20A dywedodd Ahafa wrth bleias, A gefaist ti fi, O fy ngelyn? Dywedodd yntau, Cefais: oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. º
21Wele fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di, ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r gweddilledig yn Israel: º
22A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahia, oherwydd y dieter trwy yr hwn y’m digiaist, ac y gwnaethost i Israel bechu. º
23Am Jesebel hefyd y llefarodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Y cwn a fwyty Jesebel wrth fur Jesreel. º
24Y cwn a fwyty yr hwn a fyddo marw o’r eiddo Ahab yn y ddinas: a’r hwn a fyddo marw yn y maes a fwyty adar y nefoedd. º
25Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: oherwydd Jesebel ei wraig a’i hanogai ef. º
26Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl delwau, yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid, y rhai a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. º
27A phan glybu Ahab y geiriau hyn, efe a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachliain am ei gnawd, ac a ymprydiodd, ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn araf. º
28A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, º
29Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron? am iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dy ef.