2 Chronicles 12:7
A phan welodd yr ARGLWYDD iddynt hwy ymostwng, daeth gair yr ARGLWYDD at Semaia, gan ddywedyd, Hwy a ym¬ostyngasant; am hynny ni ddifethaf hwynt, ond rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder; ac ni thywelltir fy llid yn erbyn Jerwsalem trwy law Sisac.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6Yna tywysogion Israel a’r brenin a ymostyngasant ac a ddywedasant, Cyfiawn yw yr ARGLWYDD.
Cross References
Judges 10:15A meibion Israel a ddywedasant wrth yr ARGLWYDD, Pechasom; gwna di º 1 ni fel y gwelych yn dda: eto gwared ni, atolwg, y dydd hwn. º
1 Kings 21:29Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron? am iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dy ef.
2 Kings 13:23A’r ARGLWYDD a drugarhaodd wrth¬ynt hwy, ac a dosturiodd wrthynt hwy, ac a drodd atynt hwy, er mwyn ei gyfamod ag Abraham, Isaac, a Jacob, ac ni fynnai eu dinistrio hwynt, ac ni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg hyd yn hyn. º
2 Chronicles 33:12A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau,
2 Chronicles 34:21Ewch, ymofynnwch â’r ARGLWYDD drosof fi, a thros y gweddill yn Israel ac yn Jwda, am eiriau y llyfr a gafwyd: canys mawr yw llid yr ARGLWYDD a dywalltodd efe arnom ni, oblegid na chadwodd ein tadau ni air yr ARGLWYDD, gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.