2 Chronicles 16:10
Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd, ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy; canys yr oedd efe yn ddicllon wrtho am y peth hyn. Ac Asa a orthrymodd rai o’r bobl y pryd hwnnw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Samuel 11:4A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a’i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac efe a orweddodd gyda hi: ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid: a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun. º
2 Samuel 12:31Ac efe a ddug ymaith y bobl oedd ynddi, ac a’u gosododd dan lifiau, a than ogau heyrn, a than fwyeill heyrn, ac a’u bwriodd hwynt i’r odynau calch: ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meib¬ion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerusalem.
1 Kings 13:4A phan glybu y brenin air gŵr Duw, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato. º
2 Chronicles 25:16A phan oedd efe yn llefaru wrtho ef, y brenin a ddywedodd wrtho yntau, A wnaed tydi yn gynghorwr i’r brenin? paid, i ba beth y’th drewid? A’r proffwyd a beidiodd, ac a ddywedodd. Mi a wn fod Duw wedi arfaethu dy ddinistrio di, am i ti wneuthur hyn, ac na wrandewaist ar fy nghyngor i.
Job 20:19Am iddo ddryllio, a gado’r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd;
Proverbs 9:7Yr hwn a geryddo watwarwr, a gaiff waradwydd iddo ei hun: a’r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf.