The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 16

1Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, y daeth Baasa brenin Israel i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama, fel na adawai i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda.

2Yna Asa a ddug allan arian, ac aur, o drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, ac a’i hanfonodd at Benhadad brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd,

3Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, fel y bu rhwng fy nhad i a’th dad dithau: wele, anfonais atat arian, ac aur; dos, tor dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi.

4A Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion ei luoedd yn.erbyn dinasoedd Israel, a hwy a drawsant Ijon, a Dan, ac Abel-maim, a holl drysor-ddinasoedd Nafftali.

5A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama, ac a adawodd ei waith i sefyll.

6Yna Asa y brenin a gymerth holl Jwda, a hwy a gludasant ymaith gerrig Rama, a’i choed, a’r rhai yr adeiladai Baasa; ac a adeiladodd â hwynt Geba, a Mispa.

7Y pryd hwnnw y daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda, ac a ddywedodd wrtho, Gan i ti roi dy bwyd ar frenin Syria, ac na roddaist dy bwys ar yr ARGLWYDD dy DDUW, am hynny y dihangodd llu brenin Syria o’th law di.

8Onid oedd yr Ethiopiaid a’r Lubiaid yn llu dirfawr, â cherbydau ac â gwŷr meirch yn aml iawn? ond am i ti roi dy bwys ar yr ARGLWYDD, efe a’u rhoddodd hwynt yn dy law di.

9Canys y mae llygaid yr ARGLWYDD yn edrych ar yr holl ddaear, i’w ddangos ei hun yn gryf gyda’r rhai sydd a’u calon yn berffaith tuag ato ef. Ynfyd y gwnaethost yn hyn; am hynny rhyfeloedd fydd i’th erbyn o hyn allan.

10Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd, ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy; canys yr oedd efe yn ddicllon wrtho am y peth hyn. Ac Asa a orthrymodd rai o’r bobl y pryd hwnnw.

11Ac wele, gweithredoedd Asa, y rhai cyntaf a’r rhai diwethaf, wele, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.

12Ac Asa a glafychodd o’i draed yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o’i deyrnasiad, nes i’w glefyd fyned yn ddirfawr; eto ni cheisiodd efe yr ARGLWYDD yn ei glefyd, ond y meddygon.

13Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a fu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain o’i deyrnasiad.

14A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun, yr hwn a wnaethai efe iddo yn ninas Dafydd, a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lanwasid â pheraroglau o amryw rywogaethau, wedi eu gwneuthur trwy waith apothecari; a hwy a gyneuasant iddo ef gynnau. mawr iawn.

← 2 Chronicles 15Read In The App, Free →2 Chronicles 17 →

Study 2 Chronicles 16

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536