2 Chronicles 16:14
A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun, yr hwn a wnaethai efe iddo yn ninas Dafydd, a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lanwasid â pheraroglau o amryw rywogaethau, wedi eu gwneuthur trwy waith apothecari; a hwy a gyneuasant iddo ef gynnau. mawr iawn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
13Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a fu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain o’i deyrnasiad.
Cross References
Genesis 50:2Gorchymynodd Joseph hefyd i’w weision, y meddygon, bêr-arogli ei dad ef: felly y meddygon a bêr-aroglasant Israel.
2 Samuel 2:32A hwy a gymerasant Asahel, ac a’i claddasant ef ym meddrod ei dad, yr hwn oedd ym Methlehem. A Joab a’i wŷr a gerddasant ar hyd y nos, ac yn Hebron y goleuodd arnynt.
2 Chronicles 32:33A Heseceia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn yr uchaf o feddau meibion Dafydd. A holl Jwda a thrigolion Jerwsalem a wnaethant anrhydedd iddo ef wrth ei farwolaeth. A Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
Ecclesiastes 10:1Gwybed meirw a wnânt i ennaint yr apothecari ddrewi; felly y gwna ychydig ffolineb i ŵr ardderchog oherwydd doethineb ac anrhydedd.
Jeremiah 34:5Mewn heddwch y byddi farw: a hwy a losgant beraroglau i ti, fel y llosgwyd i’th dadau, y brenhinoedd gynt, y rhai a fu o’th flaen di: a hwy a alarant amdanat ti, gan ddywedyd, O arglwydd! canys myfi a ddywedais y gair, medd yr ARGLWYDD. º
John 19:39A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos,) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg, tua chan pwys.