2 Chronicles 25:27
Ac wedi’r amser yr ymadawodd Amaseia oddi ar ôl yr ARGLWYDD, hwy a fradfwriadasant fradwriaeth yn ei erbyn ef yn Jerwsalem, ac efe a ffodd i Lachis: ond hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a’i lladdasant ef yno.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
28A hwy a’i dygasant ef ar feirch, ac a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Jwda.
Cross References
Joshua 10:31¶ A Josua a dramwyodd, a holl Israel gyd âg ef, o Libnah i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i’w herbyn.
2 Kings 14:19Ond hwy a fradfwriadasant yn ai erbyn ef yn Jerwsalem; ac efe a ffodd i Lachis: eto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a’i lladdasant ef yno. º
2 Chronicles 15:2Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr AR¬GLWYDD sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a’i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a’ch gwrthyd chwithau.
2 Chronicles 24:25A phan aethant hwy oddi wrtho ef, (canys hwy a’i gadawsant ef mewn clefydau mawrion,) ei weision ei hun a gyd-fwriadodd i’w erbyn ef, oherwydd gwaed meibion Jehoiada yr offeiriad, ac a’i lladdasant ef ar ei wely; ac efe a fu farw: a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd, ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd.