Llyfr Numeri 18:7
Tithau a’th feibion gyd â thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i’r allor, ac o fewn y llèn wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhodd ais eich offeiriadaeth i chwi; a’r dïeithr a ddelo yn agos, a leddir.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 28:1Gwisgoedd meibion Aaron. A chymmer Aaron dy frawd attat, a’i feibion gyd âg ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleazar ac Ithamar, meibion Aaron.
Leviticus 7:35¶ Hyn yw rhan enneiniad Aaron ac enneiniad ei feibion, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yn y dydd y nesaodd efe hwynt i offeiriadu i’r Arglwydd;
Leviticus 16:12A chymmered lonaid thusser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi ger bron yr Arglwydd, a llonaid ei ddwylaw o arogl-darth peraidd mân, a dyged o fewn y wahanlen:
Numbers 3:10Ac urdda di Aaron a’i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a’r dïeithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.
Numbers 16:5Ac efe a lefarodd wrth Corah, ac wrth ei holl gynnulleidfa ef, gan ddywedyd, Y bore y dengys yr Arglwydd yr hwn sydd eiddo ef, a’r sanctaidd; a phwy a ddylai nesâu atto ef: canys yr hwn a ddewisodd efe, a nesâ efe atto.
Numbers 18:4Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dïeithr yn agos attoch.