2 Chronicles 29:6
Canys ein tadau ni a droseddasant, ac a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ein Duw, ac a’i gwrthodasant ef, ac a droesant eu hwynebau oddi wrth babell yr ARGLWYDD, ac a droesant eu gwarrau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 28:2Eithr efe a rodiodd yn ffyrdd brenhinoedd Israel, ac a wnaeth i Baalim ddelwau toddedig.
2 Chronicles 34:21Ewch, ymofynnwch â’r ARGLWYDD drosof fi, a thros y gweddill yn Israel ac yn Jwda, am eiriau y llyfr a gafwyd: canys mawr yw llid yr ARGLWYDD a dywalltodd efe arnom ni, oblegid na chadwodd ein tadau ni air yr ARGLWYDD, gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
Ezra 9:7Er dyddiau ein tadau yr ydym ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn; ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni, ein brenhinoedd, a’n hoffeiriaid, i law brenhinoedd y gwledydd, i’r cleddyf, i gaethiwed, ac i anrhaith, ac i warthrudd wyneb, megis heddiw.
Nehemiah 9:32Ac yn awr, O ein DUW ni, y DUW mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr hwn wyt yn cadw cyfamod a thrugaredd; na fydded bychan o’th flaen di yr holl flinder a ddigwyddodd i ni, i’n brenhinoedd, i’n tywysogion, ac i’n hoffeiriaid, ac i’n proffwydi, ac i’n tadau, ac i’th holl bobi, er dyddiau brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn.
Jeremiah 2:13Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl; hwy a’m gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau, ie, pydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr.
Jeremiah 2:27Y rhai a ddywedant wrth bren, Tydi yw fy nhad; ac wrth garreg, Ti a’m cenhedlaist. Canys hwy a droesant ataf wegil, ac nid wyn eb: ond yn amser eu hadfyd y dywedant, Cyfod, a chadw ni.