2 Chronicles 30:9
Canys os dychwelwch chwi at yr ARGLWYDD, eich brodyr chwi a’ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a’u caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i’r wlad yma: oblegid grasol a thrugarog yw yr ARGLWYDD eich Duw, ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych, os dychwel¬wch ato ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 34:6A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd Jehofah, Jehofah, y Duw trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;
Deuteronomy 30:1Gosod angau ac einioes o flaen y bobl. A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat, sef y fendith a’r felldith, y rhai a roddais o’th flaen, ac adgofio o honot hwynt ym mysg yr holl genhedloedd y rhai y’th yrrodd yr Arglwydd dy Dduw di attynt;
Deuteronomy 30:4Pe y’th wthid i eithaf y nefoedd, oddi yno y’th gasglai yr Arglwydd dy Dduw, ac oddi yno y’th gymmerai.
2 Chronicles 7:14Os fy mhobl, y rhai y gelwir fy enw arnynt, a ymostyngant, ac a weddïant, ac a geisiant fy wyneb, ac a droant o’u ffyrdd drygionus: yna y gwrandawaf o’r nefoedd, ac y maddeuaf iddynt eu pechodau, ac yr iachaf eu gwlad hwynt.
Nehemiah 9:17Ac a wrthodasant wrando, ac ni chofiasant dy ryfeddodau, y rhai a wnaethit ti erddynt; caledasant hefyd eu gwarrau, a gosodasant ben arnynt i ddychwelyd i’w caethiwed yn eu cyndynrwydd: eto ti ydwyt DDUW parod i faddau, graslon, a thrugarog, hwyrfrydig i ddicter, ac aml o drugaredd, ac ni wrthodaist hwynt.
Psalms 86:5Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?