2 Chronicles 32:8
Gydag ef y mae braich cnawdol; ond yr ARGLWYDD ein Duw sydd gyda ni, i’n cynorthwyo, ac i ryfela ein rhyfeloedd. A’r bobl a hyderasant ar eiriau Heseceia brenin Jwda.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 4:31A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o’r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymmasant, ac a addolasant.
Deuteronomy 20:3A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesâu heddyw i’r frwydr yn erbyn eich gelynion: na feddalhâed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt.
Joshua 10:42Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a’u gwledydd a ennillodd Josua ar unwaith: canys Arglwydd Dduw Israel oedd yn ymladd dros Israel.
2 Chronicles 13:12Ac wele, Duw sydd ben gyda ni, a’i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi. O feibion Israel, nac ymleddwch yn erbyn ARGLWYDD DDUW eich tadau; canys ni lwyddwch chwi.
2 Chronicles 14:11Ac Asa a waeddodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, nid yw ddim i ti gynorthwyo, pa un bynnag ai gyda llawer, ai gyda’r rhai nid oes ganddynt gryfder: cynorthwya di ni, O ARGLWYDD ein Duw; canys pwyso yr ydym ni arnat ti, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf hon: O AR¬GLWYDD, ein Duw ni ydwyt ti, na orfydded dyn i’th erbyn.
2 Chronicles 20:17Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr ARGLWYDD tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt a’r ARGLWYDD fydd gyda chwi.