Llyfr Exodus 4:31
A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o’r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymmasant, ac a addolasant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 17:3Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd Duw wrtho ef, gan ddywedyd,
Genesis 50:24A dywedodd Joseph wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fynu o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.
Exodus 3:7¶ A dywedodd yr Arglwydd, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aipht, a’u gwaedd o achos eu meistriaid-gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau.
Exodus 3:18A hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenhin yr Aipht, a dywedwch wrtho, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, attolwg, daith tri diwrnod i’r anialwch, fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw.
Exodus 12:27Yna y dywedwch, Aberth Pasc yr Arglwydd ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aipht, pan drawodd efe yr Aiphtiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymmodd y bobl, ac yr addolasant.
Exodus 33:10A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmmwl yn sefyll wrth ddrws y babell: a’r holl bobl a gododd, ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell.