2 Chronicles 33:13
Ac a weddïodd arno ef: ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a’i dug ef drachefn i Jerw¬salem i’w frenhiniaeth. Yna y gwybu Manasse mai yr ARGLWYDD oedd DDUW.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 29:6Bara ni fwyttasoch, a gwin neu ddïod gref nid yfasoch: fel y gwybyddech mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
1 Kings 18:39A’r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW, yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW. º
1 Chronicles 5:20A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid i’w dwylo hwynt, a chwbl a’r a ydoedd gyda hwynt: canys llefasant ar DDUW yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd aarynt, oherwydd iddynt obeithio ynddo.
2 Chronicles 34:27Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen Duw, pan glyw¬aist ei eiriau ef yn erbyn y fan hon ac yn erbyn ei thrigolion, ac ymostwng ohonot ger fy mron, a rhwygo dy ddillad, ac wylo o’m blaen i; am hynny y gwrandewais innau, medd yr ARGLWYDD.
Ezra 8:23Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â’n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd amom.
Job 22:23Os dychweli at yr Hollalluog, ti adeiledir, symudi anwiredd ymhell oddi wrth dy luestai.