2 Chronicles 34:27
Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen Duw, pan glyw¬aist ei eiriau ef yn erbyn y fan hon ac yn erbyn ei thrigolion, ac ymostwng ohonot ger fy mron, a rhwygo dy ddillad, ac wylo o’m blaen i; am hynny y gwrandewais innau, medd yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 12:7A phan welodd yr ARGLWYDD iddynt hwy ymostwng, daeth gair yr ARGLWYDD at Semaia, gan ddywedyd, Hwy a ym¬ostyngasant; am hynny ni ddifethaf hwynt, ond rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder; ac ni thywelltir fy llid yn erbyn Jerwsalem trwy law Sisac.
2 Chronicles 32:26Er hynny Heseceia a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon, efe a thrig¬olion Jerwsalem; ac ni ddaeth digofaint yr ARGLWYDD arnynt yn nyddiau Heseceia.
2 Chronicles 33:13Ac a weddïodd arno ef: ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a’i dug ef drachefn i Jerw¬salem i’w frenhiniaeth. Yna y gwybu Manasse mai yr ARGLWYDD oedd DDUW.
2 Chronicles 34:19A phan glybu y brenin eiriau y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad.
Psalms 10:17Y rhai drygionus a ymchwelant i uffem, a’r holl genhedloedd a anghofiant DDUW.
Psalms 51:17Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl.