2 Chronicles 35:3
Ac a ddywedodd wrth y Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu holl Israel, ac oedd sanctaidd i’r ARGLWYDD, Rhoddwch yr arch sanctaidd yn y tŷ a addladodd Solomon mab Dafydd brenin Israel; na fydded hi mwyach i chwi yn faich ar ysgwydd: gwasanaethwch yn awr yr ARGLWYDD eich Duw, a’i bobl Israel,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 4:15Pan ddarffo i Aaron ac i’w feibion orchuddio’r cyssegr, a holl ddodrefn y cyssegr, pan gychwyno y gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i’w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â’r hyn a fyddo cyssegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.
Numbers 16:9Ai bychan gennych neillduo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynnulleidfa Israel, gan eich nesâu chwi atto ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr Arglwydd, ac i sefyll ger bron y gynnulleidfa, i’w gwasanaethu hwynt?
1 Chronicles 23:26A hefyd i’r Lefiaid: ni ddygant mwyach y tabernacl, na dim o’i lestri, i’w wasanaeth ef. º
2 Chronicles 8:11A Solomon a ddug ferch Pharo i fyny o ddinas Dafydd i’r tŷ a adeiladasai efe iddi hi: canys efe a ddywedodd, Ni thrig fy ngwraig i yn nhŷ Dafydd brenin Israel, oherwydd sanctaidd yw, oblegid i arch yr ARGLWYDD ddyfod i mewn iddo.
2 Chronicles 17:8A chyda hwynt yr anfonodd efe Lefiaid, Semaia, a Nethaneia, a Sebadeia, ac Asahel, a Semiramoth a Jehonathan, ac Adoneia, a Thobeia, a Thob Adoneia, y Lefiaid; a chyda hwynt Elisama, a Jehoram, yr offeiriaid.
2 Chronicles 30:22A Heseceia a ddywedodd wrth fodd calon yr holl Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu gwybodaeth ddaionus yr ARGLWYDD; a hwy a fwytasant ar hyd yr ŵyl saith niwrnod, ac a aberthasant ebyrth hedd, ac a gyffesasant i ARGLWYDD DDUW eu tadau.