2 Chronicles 5:11
A phan ddaeth yr offeiriaid o’r cysegr; canys yr holl offeiriaid, y rhai a gafwyd, a ymsancteiddiasent, heb gadw dosbarthiad:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 19:10¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddyw ac yfory; a golchant eu dillad,
1 Chronicles 15:14Felly yr offeiriaid, a’r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch ARGLWYDD DDUW Israel. º
2 Chronicles 29:5Ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gwrandewch fi, O Lefiaid, ymsancteiddiwch yn awr, a sancteiddiwch dy ARGLWYDD DDUW eich tadau, a dygwch yr aflendid allan o’r lle sanctaidd.
2 Chronicles 29:34Ond yr oedd rhy fychan o offeiriaid, fel na allent flingo yr holl boethoffrymau: am hynny eu brodyr y Lefiaid a’u cynorthwyasant hwy, nes gorffen y gwaith, ac nes i’r offeiriaid ymgysegru: canys y Lefiaid oedd uniawnach o galon i ymgys¬egru na’r offeiriaid.
2 Chronicles 30:17Canys yr oedd llawer yn y gynulleidfa:y rhai nid ymsancteiddiasent: ac ar y Lefiaid yr oedd lladd y Pasg dros yr holl rai aflan, i’w sancteiddio i’r ARGLWYDD.
2 Chronicles 35:6Felly Heddwch y Pasg, ac ymsancteiddiwch, a pharatowch eich brodyr, i wneuthur yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy law Moses.