Llyfr Exodus 19:10
¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddyw ac yfory; a golchant eu dillad,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 19:14¶ A Moses a ddisgynnodd o’r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad.
Leviticus 11:44O herwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; o herwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
Numbers 8:7Ac fel hyn y gwnei iddynt i’w glanhâu; taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnant i’r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt.
Numbers 11:18Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn y fory, a chewch fwytta cig: canys wylasoch y’nghlustiau yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i’w fwytta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aipht: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig, a chwi a fwyttêwch.
Numbers 31:24A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd, a glân fyddwch; ac wedi hynny deuwch i’r gwersyll.
Joshua 7:13Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn y fory: canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Dïofryd-beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y dïofryd-beth o’ch mysg.