2 Chronicles 5:12
Felly y Lefiaid, y rhai oedd gantorion, hwynt-hwy oll o Asaff, o Heman, o Jeduthun, â’u meibion hwynt, ac â’u brodyr, wedi eu gwisgo â lliain main, â symbalau, ac â nablau a thelynau, yn sefyll o du dwyrain yr allor, a chyda hwynt chwe ugain o offeiriaid yn utganu mewn utgyrn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 10:1Bendith Moses wrth symmudo a gorphwyso o’r arch. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
1 Chronicles 6:33A dyma y rhai a weiniasant, a’u meibion hefyd: o feibion y Cohathiaid; Heman y cantor, mab Joel, fab Semuel,
1 Chronicles 13:8A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw, a’u holl nertha ac a chaniadau, ac a thelynau, ac a nablau, ac a thympanau, ac a symbalau, ac ag utgyrn. º
1 Chronicles 15:24A Sebaneia, a Jehosaffat, a Nathaneel, ac Amasai, a Sechareia, a Benaia, ac Elieser, yr offeiriaid, oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch Duw: Obededom hefyd a Jeheia oedd borthorion i’r arch. º
1 Chronicles 16:4Ac efe a osododd gerbron arch yr ARGLWYDD weimdogion o’r Lefiaid; i gofio, ac i foliannu, ac i glodfori AR¬GLWYDD DDUW Israel. º
1 Chronicles 23:5A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr ARGLWYDD a’r offer a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu. º