2 Chronicles 5:13
Ac fel yr oedd yr utganwyr a’r cantorion, megis un, i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr ARGLWYDD; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn, ac mewn symbolau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Canys da yw; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llanwyd y tŷ â chwmwl, sef tŷ yr ARGLWYDD;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 40:34¶ Yna cwmmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tabernacl.
1 Chronicles 16:4Ac efe a osododd gerbron arch yr ARGLWYDD weimdogion o’r Lefiaid; i gofio, ac i foliannu, ac i glodfori AR¬GLWYDD DDUW Israel. º
2 Chronicles 7:1Ac wedi gorffen o Solomon weddïo, tân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a ysodd y poethoffrwm a’r ebyrth; a gogoniant yr ARGLWYDD a lanwodd y tŷ.
2 Chronicles 7:3A phan welodd holl feibion Israel y tân yn disgyn, a gogoniant yr ARGLWYDD ar y tŷ, hwy a ymgrymasant â’u hwynebau i lawr ar y palmant, ac a addolasant, ac a glodforasant yr ARGLWYDD, canys daionus yw efe, oherwydd bod ei drugaredd ef yn dragywydd.
2 Chronicles 20:21Ac efe a ymgynghorodd a’r bobl, ac a osododd gantorion i’r ARGLWYDD, a rhai i foliannu prydferthwch sancteiddrwydd, pan aent allan o flaen y rhyfelwyr; ac i ddywedyd, Clodforwch yr ARGLWYDD, oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
Ezra 3:11A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr ARGLWYDD, mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A’r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr ARGLWYDD, am sylfaenu tŷ yr ARGLWYDD.