2 Corinthians 12:21
Rhag pan ddelwyf drachefn, fod i’m Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eisoes, ac nid edifarhasant am yr aflendid, a’r godineb., a’r anlladrwydd a wnaethant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 32:31A Moses a ddychwelodd at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur.
Deuteronomy 9:25A mi a syrthiais ger bron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o’r blaen; am ddywedyd o’r Arglwydd y difethai chwi.
Ezra 9:3Pan glywais innau hyn, mi a rwygais fy nillad a’m gwisg, ac a dynnais wallt fy mhen a’m barf, ac a eisteddais yn syn.
Jeremiah 13:17Ond oni wrandewch chwi hyn, fy enaid a wyla mewn lleoedd dirgel am eich balchder; a’m llygaid gan wylo a wylant, ac a ollyngant ddagrau, o achos dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed.
Romans 9:2Fod i mi dristyd mawr, a gofid dibaid i’m calon.