The Bible Software
2 Corinthians · Beibl (1620)

2 Corinthians 12

1YMFFROSTIO yn ddiau nid yw fuddiol i mi: canys myfi a ddeuaf at weledigaethau a datguddiedigaethau’r Arglwydd.

2Mi a adwaenwn ddyn yng Nghrist er ys rhagor i bedair blynedd ar ddeg, (pa un ai yn y corff, ni wn; ai allan o’r corff, ni wn i: Duw a wyr;) y cyfryw un a gipiwyd i fyny hyd y drydedd nef,

3Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn, (pa un ai yn y corff, ai allan o’r corff ni wn i: Duw a wyr;)

4Ei gipio ef i fyny i baradwys, ac iddo glywed geiriau anhraethadwy, y rhai nid yw gyfreithlon i ddyn eu hadrodd.

5Am y cyfryw un yr ymffrostiaf; eithr amdanaf fy hun nid ymffrostiaf, oddieithr yn fy ngwendid.

6Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni byddafffol; canys mi a ddywedafy gwir: eithr yr wyfyn arbed, rhag i neb wneuthur cyfrif ohonof fi uwchlaw y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed gennyf.

7Ac fel na’m tra-dyrchafer gan odidowg-rwydd y datguddiedigaethau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i’m ccrnodio, fel na’m tra-dyrchefid.

8Am y peth hwn mi a atolygais i’r Ar¬glwydd dcirgwaith, ar fod iddo ymadael a mi.

9Ac etc a ddywedodd wrthyf, Digon i ti fy ngras i: canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn tŷ ngwendid, fel y preswylio nerth Criht ynof fi.

10Am hynny yr wyf yn fodlon mewn gwendid, mewn amarch, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.

11Mi a euthum yn ffol wrth ymffrostio; chwychwi a’m gyrasoch: canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi: canys ni bum i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf, er nad ydwyf fi ddim.

12Arwyddion apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi, triewn pob amynedd, mewn arwyddion, a rhyfeddodau, a gweithredoedd nerthol.

13Canys beth yw’r hyn y buoch chwi yn ôl amdano, mwy na’r eglwysi eraiB, oddieithr am na bum i fy hun ormesol arnoch? maddeuwch i mi hyn o gam.

14Wele, y drydedd waith yr wyf fi yn barod i ddyfod atoch; ac ni byddaf ormesol arnoch: canys nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chwychwi: canys ni ddylai’r plant gasglu trysor i’r rhieni, ond y rhieni i’r plant.

15A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf, ac a ymdreuliaf, dros eich eneidiau chwi, er fy mod yn eich cam yn helaethach, ac yn cael fy ngharu yn brinnach.

16Eithr bid, ni phwysais i amoch: ond, gan fod yn gyfrwys, mi a’ch deliais chwi trwy ddichell.

17A wneuthum i elw ohonoch chwi trwy neb o’r rhai a ddanfonais atoch?

18Mi a ddeisyfais ar Titus, a chydag ef mi a anfonais frawd. A elwodd Titus ddim arnoch? onid yn yr un ysbryd y rhodiasom? onid yn yr un llwybrau?

19Drachefn, a ydych chwi yn tybied mai ymesgusodi yr ydym wrthych? gerbron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru; a phob peth, anwylyd, er adeiladaeth i chwi.

20Canys ofni yr wyf, rhag, pan ddel-wyf, na’ch caffwyf yn gyfryw rai ag a fynnwn, a’m cael innau i chwithau yn gyfryw ag nis mynnech: rhag bod cyn-hennau, cenfigennau, llidiau, ymrysonau, goganau, hustyngau, ymchwyddiadau, anghydfyddiaethau:

21Rhag pan ddelwyf drachefn, fod i’m Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eisoes, ac nid edifarhasant am yr aflendid, a’r godineb., a’r anlladrwydd a wnaethant.

← 2 Corinthians 11Read In The App, Free →2 Corinthians 13 →

Study 2 Corinthians 12

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Robertson's Word PicturesReina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213