2 John 1:12
Er bod gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu atoch, nid oeddwn yn ewyllysio ysgrifennu â phapur ac inc: eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn. 1:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o’i weithredoedd drwg ef. 1:
13Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch. Amen.
Cross References
Numbers 12:8Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd; paham gan hynny nad oeddych yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses?
John 16:12Y mae gennyf eto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron.
John 17:13Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat: a’r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.
1 Corinthians 16:5Eithr mi a ddeuaf atoch, gwedi yr elwyf trwy Facedonia; (canys trwy Facedonia yr wyf yn myned.)
Philemon 1:22Heblaw hyn hefyd, paratoa i mi lety: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddiau chwi y rhoddir fi i chwi. 1:
Hebrews 13:23Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd; gyda’r hwn, os daw efe ar fyrder, yr ymwelaf â chwi.