Llyfr Cyntaf y Cronicl 25:15
Y pedyll tan hefyd, a’r cawgiau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn arian, a ddug y distain ymaith. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 25
Cross References
Numbers 7:13A’i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol sicl y cyssegr, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:
1 Kings 7:48A Solomon a wnaeth yr holl ddodrefn a berthynai i dŷ yr ARGLWYDD; yr allor aur, a’r bwrdd aur, yr hwn yr oedd y bara gosod arno;
2 Chronicles 24:14A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o’r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr ARGLWYDD, sef llestri y weinidogaeth, a’r morterau, a’r llwyau, a’r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr ARGLWYDD yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada.
Ezra 1:11Yr holl lestri, y aur ac yn arian, oedd bum mil a phedwar cant. Y rhai hyn oll a ddug Sesbassar i fyny gyda’r gaethglud a ddygwyd i fyny o Babilon i Jerwsalem.