Llyfr Cyntaf y Cronicl 25
1yn y nawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllodd yn ei herbyn hi, a hwy a adeiladasant yn ei herbyn hi wrthglawdd o’i hamgylch hi. º
2A bu y ddinas yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia. º
3Ac ar y nawfed dydd o’r pedwerydd mis y trymhaodd y newyn yn y ddinas, ac nid oedd bara i bobl y wlad. º
4A’r ddinas a dorrwyd, a’r holl ryfelwyr a ffoesant liw nos ar hyd ffordd y porth, rhwng y ddau fur, y rhai sydd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch;) a’r brenin a aeth y ffordd tua’r rhos. º
5A llu’r Caldeaid a erlidiasant ar ôl y brenin, ac a’i daliasant ef yn rhosydd Jericho: a’i holl lu ef a wasgarasid oddi wrtho. º
6Felly hwy a ddaliasant y brenin, ac a’i dygasant ef i fyny at frenin Babilon i Ribia; ac a roddasant farn yn ei erbyn ef. º
7Lladdasant feibion Sedeceia hefyd o flaen ei lygaid, ac a dynasant lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymasant ef mewn gefynnau pres, ac a’i dygasant ef i Babilon. º
8Ac yn y pumed mis, ar y seithfed dydd o’r mis, honno oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebucho¬donosor brenin Babilon, y daeth Nebu-saradan y distain, gwas brenin Babilon, i Jerwsalem. º
9Ac efe a losgodd dŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, a holl dai Jerwsalem, a phbb tŷ mawr a losgodd efe â thân. º
10A holl lu’r Caldeaid, y rhai oedd gyda’r distain, a dorasant i lawr furiau Jerwsalen oddi amgylch. º
11A Nebusaradan y distain a ddug ymaith y rhan arall o’r bobl a adawsid yn y ddinas, a’r ffoaduriaid a giliasant at frenin Babilon, gyda gweddill y dyrfa. º
12Ac o diodion y wlad y gadawodd y distain rai, yn winllanwyr, ac yn arddwyr. º
13Y colofnau pres hefyd, y rhai oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a’r ystolion, a’r môr pres, yr hwn oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a ddrylliodd y Caldeaid, a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon. º
14Y crochanau hefyd, a’r rhawiau, a’r saltringau, y llwyau, a’r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu a hwynt, a ddygasant hwy ymaith. º
15Y pedyll tan hefyd, a’r cawgiau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn arian, a ddug y distain ymaith. º
16Y ddwy golofn, yr un mor, a’r ystolion a wnaethai Solomon i dŷ yr ARGLWYDD; nid oedd bwys ar bres yr holl lestri hyn. º
17Tri chufydd ar bymtheg oedd uchder y naill golofn, a chnap pres oedd ami; ac uchder y cnap oedd dri chufydd; plethwaith hefyd a phomgranadau oedd ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac felly yr oedd yr ail golofn, a phlethwaith. º
18A’r distain a gymerth Seraia yr offeiriad pennaf, a Seffancia, yr ail offeiriad, a’r tri oedd yn cadw y drws. º
19Ac o’r ddinas efe a gymerth ystaf-ellydd, yr hwn oedd ar y rhyfelwyr, a. phumwr o’r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas, ac ysgrifennydd tywysog y llu, yr hwn oedd yn byddino pobl y wlad; a thrigeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yn y ddinas. º
20A Nebusaradan y distain a gymerth y rhai hyn, ac a’u dug at frenin Babilon, i Ribla. º
21A brenin Babilon a’u trawodd hwynt, ac a’u lladdodd hwynt, yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun. º
23Ac am y bobl a adawsid yng ngwlad Jwda, y rhai adawsai Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a wnaeth yn swyddog arnynt hwy, Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan. º 23 A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, hwynt-hwy a’u gwyr, wneuthur o frenin Babilon Gedaleia yn swyddog, hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa/ sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan mab Carea, a Seraia mab Tanhumeth y Netoffathiad, a Jaasaneia mab Maach-athiad, hwynt a’u gwŷr. º
24A Gedaleia a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwyr, ac a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch fod yn weision i’r Caldeaid: trigwch yn y tir, a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd da i chwi. º
25Ac yn y seithfed mis y daeth Ismael mab Nethaneia, mab Elisama, o’r had brenhinol, a dengwr gydag ef, a hwy a drawsant Gedaleia, fcl y bu efe farw: trawsant hefyd yr Iddewon a’r Caldeaid oedd gydag ef ym Mispa. º
26A’r holl bobl o fychan hyd fawr, a thywysogion y lluoedd, a gyfodasant ac a ddaethant i’r Aifft: canys yr oeddynt yn ofni’r Caldeaid. º
27Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethiwed Joachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn yr aeth efe yn frenin, a ddyrchafodd ben Joachin brenin Jwda o’r carchardy.