Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 7:23
A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o’r Aifft, oddi wrth y cenhedloedd a’u duwiau?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 7
Cross References
Exodus 3:7¶ A dywedodd yr Arglwydd, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aipht, a’u gwaedd o achos eu meistriaid-gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau.
Exodus 9:15O herwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a’th darawaf di a’th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear.
Exodus 12:12O herwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aipht y nos hon, ac a darawaf bob cyntaf-anedig o fewn tir yr Aipht, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aipht: myfi yw yr Arglwydd.
Exodus 33:16Canys pa fodd y gwyddir yma gael o honof fi ffafr yn dy olwg, mi a’th bobl? onid trwy fyned o honot ti gyd â ni? Felly myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear.
Deuteronomy 4:7Oblegid pa genedl mor fawr, yr hon y mae Duw iddi yn nesâu atti, fel yr Arglwydd ein Duw ni, ym mhob dim a’r y galwom arno?
Deuteronomy 9:26Gweddïais hefyd ar yr Arglwydd, a dywedais, Arglwydd Dduw, na ddifetha dy bobl, a’th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o’r Aipht â llaw gref.