Llyfr Exodus 33:16
Canys pa fodd y gwyddir yma gael o honof fi ffafr yn dy olwg, mi a’th bobl? onid trwy fyned o honot ti gyd â ni? Felly myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid â dy wyneb gyd â ni, nac arwain ni i fynu oddi yma.
Cross References
Exodus 8:22A’r dydd hwnnw y neillduaf fi wlad Gosen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo’r gymmysgbla yno; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd y’nghanol y ddaear.
Exodus 34:9Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, attolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wàr-galed yw,) a maddeu ein hanwiredd, a’n pechod, a chymmer ni yn etifeddiaeth i ti.
Numbers 14:14Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, Arglwydd, ym mysg y bobl yma, a’th fod di, Arglwydd, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;)
Deuteronomy 4:7Oblegid pa genedl mor fawr, yr hon y mae Duw iddi yn nesâu atti, fel yr Arglwydd ein Duw ni, ym mhob dim a’r y galwom arno?
2 Samuel 7:23A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o’r Aifft, oddi wrth y cenhedloedd a’u duwiau?