Actau'r Apostolion 17:32
IT A phan glywsant son am adgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant; a rhai a ddywedasant, Ni a'th wrandawn drachefn am y peth hwn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
33Ac felly Paul a aeth allan o'u plith hwynt.
Read all of Actau'r Apostolion 17
Cross References
2 Chronicles 30:9Canys os dychwelwch chwi at yr ARGLWYDD, eich brodyr chwi a’ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a’u caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i’r wlad yma: oblegid grasol a thrugarog yw yr ARGLWYDD eich Duw, ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych, os dychwel¬wch ato ef.
Luke 14:18A hwy oll a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho. Mi a brynais dyddyn, ac y mae’n rhaid i mi fyned a’i weled: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol.
Luke 23:11A Herod a’i filwyr, wedi iddo ei ‘ ddiystyru ef, a’i watwar, a’i wisgo a gwisg glaerwen, a’i danfonodd ef drachefn at Peilat.
Acts 2:13Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melys ydynt.
Acts 17:18A rhai o’r philosophyddion o’r Epicuriaid, ac o’r Stoiciaid, a ym ddadleuasant âg ef; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai y siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr: am ei fod yn pregethu yr Iesu, a'r adgyfodiad iddynt.
Acts 24:25Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a’r farn a fydd, Ffelix a ddychrynodd, ac a atebodd, Dos ymaith ar hyn o amser; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi a alwaf amdanat.