Actau'r Apostolion 24:9
A’r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly.
Beibl (1620)
In The King James Version
And the Jews also assented, saying that these things were so.
In Context
Read all of Actau'r Apostolion 24
Cross References
Psalms 62:3Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
Isaiah 59:4Nid oes a alwo am gyfiawnder, nac a ddadlau dros y gwirionedd: y maent yn gobeithio mewn gwagedd, ac yn dywedyd celwydd; yn beichiogi ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd. º
Ezekiel 22:27Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu' ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw.
Micah 7:2Darfu am y duwiol oddi ar y ddaear, ac nid oes un uniawn ymhlith dynion; cynllwyn y maent oll am waed; pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd.
John 8:44O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo.