The Bible Software
Actau'r Apostolion · Beibl (1620)

Actau'r Apostolion 24

1Ac ar ôl pum niwrnod, y daeth Ananeias yr archoffeiriad i waered, a’r henuriaid, ac un Tertwlus, areithiwr; y rhai a ymddangosasant gerbron y rhaglaw yn erbyn Paul.

2Ac wedi ei alw ef gerbron, Tertwius a ddechreuodd ei gyhuddo ef, gan ddy¬wedyd,

3Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr, a bod pethau llwyddiannus i’r genedl hon trwy dy ragwelediad di, yr ydym ni yn gwbl, ac ym mhob man, yn eu cydnabod, O ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolch.

4Eithr, fel na rwystrwyf di ymhellach, yr ydwyf yn deisyf arnat, o’th hynawsedd, wrando arnom ar fyr eiriau.

5Oblegid ni a gawsom y gŵr hwn yn bla, ac yn cyfodi terfysg ymysg yr holl Iddewon trwy’r byd, ac yn ben nr sect y Nasareniaid:

6Yr hwn a amcanodd halogi’r deml: yr hwn hefyd a ddaliasom ni, ac a fynasem ei farnu yn ôl ein cyfraith ni.

7Eithr Lysias y pen-capten a ddaeth, a thrwy orthrech mawr a’i dug ef allan o’n dwylo ni,

8Ac a archodd i’w gyhuddwyr ddyfod ger dy fron di: gan yr hwn, wrth ei holi, y gelli dy hun gael gwybodaeth o’r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno.

9A’r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly.

10A Phaul a atebodd, wedi i’r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i’r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun.

11Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerwsalem.

12Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadlau â neb, nac yn gwneuthur terfysg i’r bobl, nac yn y synagogau, nac yn y ddinas:

13Ac ni allant brofi’r pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o’u plegid.

14Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau, gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a’r proffwydi:

15A chennyf obaith ar Dduw, yr hon y mae’r rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl, y bydd atgyfodiad y meirw, i’r cyfiawnion ac i’r anghyfiawnion.

16Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddi-rwystr tuag at Dduw a dynion, yn wastadol.

17Ac ar âl llawer o flynyddoedd, y deuthum i wneuthur elusennau i’m cenedl, ac offrymau.

18Ar hynny rhai o’r Iddewon o Asia a’m cawsant i wedi fy nglanhau yn y deml, nid gyda thorf na therfysg.

19Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di, ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i’m herbyn.

20Neu, dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor;

21Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith; Am atgyfodiad y meirw y’m bernir heddiw gennych.

22Pan glybu Ffelix y pethau hyn, efe a’u hoedodd hwynt, gan wybod yn hysbysach y pethau a berthynent i’r ffordd honno; ac a ddywedodd, Pan ddêl Lysias y pen-capten i waered, mi a gaf wybod eich materion chwi yn gwbl.

23Ac efe a archodd i’r canwriad gadw Paul, a chael ohono esmwythdra; ac na lesteiriai neb o’r eiddo ef i’w wasanaethu, nac i ddyfod ato.

24Ac ar ôl talm o ddyddiau, y daeth Ffelix, gyda’i wraig Drusila, yr hon ydoedd Iddewes, ac a yrrodd am Paul, ac a’i gwrandawodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist.

25Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a’r farn a fydd, Ffelix a ddychrynodd, ac a atebodd, Dos ymaith ar hyn o amser; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi a alwaf amdanat.

26A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul, er ei ollwng ef yn rhydd: oherwydd paham efe a anfonodd amdano yn fynychach, ac a chwedleuodd ag ef.

27Ac wedi cyflawni dwy flynedd, y daeth Porcius Ffestus yn lle Ffelix. A Ffelix, yn ewyllysio gwneuthur cymwynas i’r Iddewon, a adawodd Paul yn rhwym.

← Actau'r Apostolion 23Read In The App, Free →Actau'r Apostolion 25 →

Study Actau'r Apostolion 24

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Robertson's Word PicturesReina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728