Actau'r Apostolion 5:28
Gan ddywedyd, Oni orchmynasom ni, gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerwsalem â’ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
27Ac wedi eu dwyn, hwy a’u gosodasant o flaen y cyngor: a’r archoffeiriad a ofynnodd iddynt,
29A Phedr a’r apostolion a atebasant ac a ddywedasant, Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion.
Read all of Actau'r Apostolion 5
Cross References
1 Kings 18:17A phan welodd Ahab Eleias, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel? º
1 Kings 22:8A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori a’r ARGLWYDD: eithr cas yw gennyf fi ef, canys ni phroffwyda efe i mi ddaioni, namyn drygioni; Michea mab Jimla yw efe. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly. º
Jeremiah 38:4Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin, Rhodder, atolwg, y gŵr hwn i farwolaeth: oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo’r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo’r holl bobl, wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn: oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i’r bobl hyn, ond niwed. º
Matthew 21:44A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef yn chwilfriw.
Matthew 27:25A’r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.
Acts 3:14Eithr chwi a wadasoch y Sanct a’r Cyfiawn, ac a ddeisyfasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog;