The Bible Software
Actau'r Apostolion · Beibl (1620)

Actau'r Apostolion 5

1Eithr rhyw ŵr a’i enw Ananeias gyda Saffira ei wraig, a werthodd dir,

2Ac a ddarnguddiodd beth o’r gwerth, a’i wraig hefyd o’r gyfrinach, ac a ddug ryw gyfran, ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion.

3Eithr Pedr a ddywedodd, Ananeias, paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân, ac i ddarnguddio peth o werth y tir?

4Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw.

5Ac Ananeias, pan glybu’r geiriau hyn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glybu’r pethau hyn.

6A’r gwŷr ieuainc a gyfodasant, ac a’i cymerasant ef, ac a’i dygasant allan, ac a’i claddasant.

7A bu megis ysbaid tair awr, a’i wraig ef, heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn.

8A Phedr a atebodd iddi, Dywed di i mi, Ai er cymaint y gwerthasoch chwi y tir? Hithau a ddywedodd, Ie, er cymaint.

9A Phedr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunasoch i demtio Ysbryd yr Ar¬glwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a’th ddygant dithau allan.

10Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd: a’r gwŷr ieuainc wedi dyfod i mewn, a’i cawsant hi yn farw; ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a’i claddasant hi yn ymyl ei gŵr.

11A bu ofn mawr ar yr holl eglwys, ac ar bawb oll a glybu’r pethau hyn.

12A thrwy ddwylo’r apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; (ac yr oeddynt oll yn gytûn ym mhorth Solomon.

13Eithr ni feiddiai neb o’r lleill ymgysylltu â hwynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau.

14A chwanegwyd atynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd:)

15Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hyd yr heolydd, a’u gosod ar welyau a glythau, fel o’r hyn lleiaf y cysgodai cysgod Pedr, pan ddelai heibio, rai ohonynt.

16A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd o’r dinasoedd o amgylch Jerwsalem, gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysbrydion aflan; y rhai a iachawyd oll.

17A’r archoffeiriad a gyfododd, a’r holl rai oedd gydag ef, yr hon yw heresi’r Sadwceaid, ac a lanwyd o genfigen,

18Ac a ddodasant eu dwylo ar yr apostolion, ac a’u rhoesant yn y carchar cyffredin.

19Eithr angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau’r carchar, ac a’u dug hwynt allan, ac a ddywedodd,

20Ewch, sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau’r fuchedd hon.

21A phan glywsant, hwy a aethant yn fore i’r deml, ac a athrawiaethasant. Eithr daeth yr archoffeiriad, a’r rhai oedd gydag ef, ac a alwasant ynghyd y cyngor, a holl henuriaid plant yr Israel, ac a ddanfonasant i’r carchar i’w dwyn hwy gerbron.

22A’r swyddogion, pan ddaethant, ni chawsant hwynt yn y carchar; eithr hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant,

23Gan ddywedyd, Yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gau o’r fath sicraf, a’r ceidwaid yn sefyll allan o flaen y drysau, eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.

24A phan glybu’r archoffeiriad, a blaenor y deml, a’r offeiriaid pennaf, yr ymadroddion hyn, amau a wnaethant yn eu cylch hwy beth a ddeuai o hyn.

25Yna y daeth un, ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd, Wele, y mae’r gwŷr a ddodasoch chwi yng ngharchar, yn sefyll yn y deml, ac yn dysgu y bobl.

26Yna y blaenor, gyda’r swyddogion, a aeth, ac a’u dug hwy heb drais; oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llabyddio;

27Ac wedi eu dwyn, hwy a’u gosodasant o flaen y cyngor: a’r archoffeiriad a ofynnodd iddynt,

28Gan ddywedyd, Oni orchmynasom ni, gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerwsalem â’ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn.

29A Phedr a’r apostolion a atebasant ac a ddywedasant, Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion.

30Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch chwi, ac a groeshoeliasoch ar bren.

31Hwn a ddyrchafodd Duw a’i ddeheulaw, yn Dywysog, ac yn lachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau.

32A nyni ydym ei dystion ef o’r pethau hyn, a’r Ysbryd Glân hefyd, yr hwn a roddes Duw i’r rhai sydd yn ufuddhau iddo ef.

33A phan glywsant hwy hynny, hwy a ffromasant, ac a ymgyngorasant am eu lladd hwynt.

34Eithr rhyw Pharisead a’i enw Ga¬maliel, doctor o’r gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, a gyfododd i fyny yn y cyngor, ac a archodd yrru’r apostolion allan dros ennyd fechan;

35Ac a ddywedodd wrthynt. Ha wŷr o Israel, edrychwch arnoch eich hunain, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur am y dynion hyn.

36Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un; wrth yr hwn y glynodd rhifedi o wŷr, ynghylch pedwar cant: yr hwn a laddwyd, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a wnaed yn ddiddim.

37Ar ôl hwn y cyfododd Jwdas y Galilead, yn nyddiau’r dreth; ac efe a drodd bobl lawer ar ei ôl: ac yntau hefyd a ddarfu amdano, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd.

38Ac yr awron meddaf i chwi, Ciliwch oddi wrth y dynion hyn, a gadewch iddynt: oblegid os o ddynion y mae’r cyngor hwn, neu’r weithred hon, fe a ddiddymir;

39Eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw.

40A chytuno ag ef a wnaethant. Ac wedi iddynt alw’r apostolion atynt, a’u curo, hwy a orchmynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a’u gollyngasant ymaith.

41A hwy a aethant allan o olwg y cyngor yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef amarch o achos ei enw

42A beunydd yn y deml, ac o dy i dŷ, ni pheidiasant â dysgu a phregethu Iesu Grist.

← Actau'r Apostolion 4Read In The App, Free →Actau'r Apostolion 6 →

Study Actau'r Apostolion 5

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728