Actau'r Apostolion 5:4
Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Actau'r Apostolion 5
Cross References
Exodus 35:21A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei yspryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i’r Arglwydd, tu ag at waith pabell y cyfarfod, a thu ag at ei holl wasanaeth hi, a thu ag at y gwisgoedd sanctaidd.
Numbers 16:11Am hynny tydi a’th holl gynnulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd: ond Aaron, beth yw efe, i chwi i duchan yn ei erbyn?
1 Samuel 8:7A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt: canys nid ti y maent yn ei wrthod, ond myfi a wrthodasant, rhag i mi deyrnasu arnynt. º
1 Chronicles 29:3Ac etto am fod fy ewyllys tu a thŷ fy NUW, y mae gennyf o’m heiddo fy hun, aur ac arian, yr hwn a roddaf tu ag at dŷ fy NUW; heb law yr hyn oll a barottoais tu a’r tŷ sanctaidd: º
1 Chronicles 29:9A’r bobl a lawenhasant pan offrymment o’u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymmu i’r ARGLWYDD: a Dafydd y brenhin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr. º
Job 15:35Y maent yn ymddwyn blinder, ac yn esgor ar wagedd; a’u bol sydd yn darpar twyll.