Llyfr Amos 1:8
A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr ARGLWYDD DDUW.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi.
Cross References
1 Samuel 6:17A dyma’r ffolennau aur, y rhai a roddodd y Philistiaid yn offrwm dros gamwedd i’r ARGLWYDD; dros Asdod un, dros Gasa un, dros Ascalon un, dros Gath un, dros Ecron un:
Psalms 81:14Odduw y lluoedd, dychwel, atolwg, edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon;
Isaiah 14:29Palesteina, na lawenycha di oll, er torri gwialen dy drawydd: oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan, a’i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog. º
Jeremiah 47:4O achos y dydd sydd yn dyfod i ddistrywio yr holl Philistiaid, ac i ddinistrio o Tyrus a Sidon bob cynorthwywr ag y sydd yng ngweddill: oblegid yr ARGLWYDD a ddinistria y Philistiaid, gweddill ynys Cafftor. º
Amos 3:9Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod, ac yn y palasau yng ngwlad yr Aifft, a dywedwch, Deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria, a gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn, a’r gorthrymedigion yn ei chanol hi.
Zechariah 9:6Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid.