Llyfr Amos 7:17
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dy wraig a buteinia yn y ddinas, dy feibion a’th ferched a syrthiant gan y cleddyf, a’th dir a rennir wrth linyn, a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig, a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o’i wlad.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Kings 17:6Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid. º
Isaiah 13:16Eu plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid; eu tai a ysbeilir, a’u gwragedd a dreisir. º
Jeremiah 20:6A thithau, Pasur, a phawb a’r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y’th gleddir, ti, a’r rhai oll a’th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog. º
Jeremiah 28:16Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Wele, mi a’th fwriaf di oddi ar wyneb y ddaear: o fewn y flwyddyn hon y byddi farw, oherwydd i ti ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD. º
Jeremiah 29:25Fel hyn y llefarodd ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, ArtS i ti anfon yn dy enw dy hun lythyrau at yr holl bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, ac at yr holl offeiriaid, gan ddywedyd, º
Jeremiah 29:32Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele mi a ymwelaf a Semaia y Nehelamiad, ac a’i had ef: ni bydd iddo un a drigo ymysg y bobl hyn, ac ni chaiff efe weled y daioni a wnaf fi i’m pobl, medd yl ARGLWYDD; am iddo ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.: