The Bible Software
Llyfr Amos · Beibl (1620)

Llyfr Amos 7

1Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD i mi, ac wele ef yn ffurfio ceiliogod rhedyn pan ddechreuodd yr adladd godi; ac wele, adladd wedi lladd gwair y brenin oedd.

2A phan ddarfu iddynt fwyta glaswellt y tir, yna y dywedais, Arbed, ARGLWYDD, atolwg; pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.

3Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn: Ni bydd hyn, eb yr ARGLWYDD.

4Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD DDUW i mi: ac wele yr ARGLWYDD DDUW yn galw i farn trwy dân, a difaodd y tân y dyfnder mawr, ac a ysodd beth.

5Yna y dywedais, ARGLWYDD DDUW, paid, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.

6Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn: Ni bydd hyn chwaith, eb yr ARGLWYDD DDUW.

7Fel hyn y dangosodd efe i mi; ac wele yr ARGLWYDD yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd with linyn, ac yn ei law linyn.

8A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, Llinyn. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Wele, gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach.

9Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd, a chysegrau Israel a ddifethir; a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf.

10Yna Amaseia offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, Cydfwriadodd Amos i’th erbyn yng nghanol tŷ Israel: ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef.

11Canys fel hyn y dywed Amos, Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf, ac Israel a gaethgludir yn llwyr allan o’i wlad.

12Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos, Ti weledydd, dos, ffo ymaith i wlad Jwda, a bwyta fara yno, a phroffwyda yno:

13Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy: canys capel y brenin a llys y brenin yw.

14Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid profiwyd oeddwn i, ac nid mab i broffwyd oeddwn i: namyn bugail oeddwn i, a chasglydd ffigys gwylltion:

15A’r ARGLWYDD a’m cymerodd oddi ar ôl y praidd, a’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos, a phroffwyda i’m pobl Israel.

16Yr awr hon gan hynny gwrando air yr ARGLWYDD; Ti a ddywedi, Na phroffwyda yn erbyn Israel, ac nac yngan yn erbyn tŷ Isaac,

17Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dy wraig a buteinia yn y ddinas, dy feibion a’th ferched a syrthiant gan y cleddyf, a’th dir a rennir wrth linyn, a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig, a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o’i wlad.

← Llyfr Amos 6Read In The App, Free →Llyfr Amos 8 →

Study Llyfr Amos 7

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789