Llyfr Daniel 11:16
A’r hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno, ac ni bydd a safo o’i flaen; ac efe a saif yn y wlad hyfryd, a thrwy ei law ef y difethir hi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 1:5Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.
Jeremiah 3:19Ond mi a ddywedais. Pa fodd y’th osodaf ymhlith y plant, ac y rhoddaf i ti dir dymunol, sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, Ti a elwi arnaf fi, Fy nhad, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i.
Daniel 8:7Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a fu chwerw wrtho, ac a drawodd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o’i flaen ef, eithr efe a’i bwriodd ef i lawr, ac a’i sathrodd ef; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o’i law ef.
Daniel 11:3A brenin cadarn a gyfyd, ac a lywodraetha â llywodraeth fawr, ac a wna fel y mynno.
Daniel 11:41Ac efe a ddaw i’r hyfryd wlad, a llawer o wledydd a syrthiant: ond y rhai hyn a ddihangant o’i law ef, Edom, a Moab, a phennaf meibion Animon.