Llyfr Daniel 2:27
Atebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd, Ni all doethion, astronomyddion, dewiniaid, na brudwyr, ddangos i’r brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Job 5:12Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben.
Isaiah 44:25Yn diddymu arwyddion y rhai celwyddog, ac yn ynfydu dewiniaid; yn troi y doethion yn eu hôl, ac yn gwneuthur eu gwybodaeth yn ynfyd: º
Daniel 2:2A’r brenin a archodd alw am y dewiniaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hudolion, ac am y Caldeaid, i fynegi i’r brenin ei freuddwydion: a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin.
Daniel 5:7Gwaeddodd y brenin yn groch am ddwyn i mewn yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth ddoethion Babilon, Pa ddyn bynnag a ddarlleno yr ysgrifen hon, ac a ddangoso i mi ei dehongliad, efe a wisgir â phorffor, ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf, a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.