Llyfr Daniel 5:7
Gwaeddodd y brenin yn groch am ddwyn i mewn yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth ddoethion Babilon, Pa ddyn bynnag a ddarlleno yr ysgrifen hon, ac a ddangoso i mi ei dehongliad, efe a wisgir â phorffor, ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf, a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 41:8A’r bore y bu i’w yspryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aipht a’i holl ddoethion hi: a Pharaoh a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a’u dehonglai hwynt i Pharaoh.
Numbers 22:7A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, a gwobr dewiniaeth yn eu dwylaw: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac.
Numbers 24:11Am hynny yn awr ffo i’th fangre dy hun: dywedais, gan anrhydeddu y’th anrhydeddwn; ac wele, attaliodd yr Arglwydd di oddi wrth anrhydedd.
Esther 3:1Wedi y pethau hyn, y brenin Ahasferus a fawrhaodd Haman mab Hammedatha yr Agagiad, ac a’i dyrchafodd ef; gosododd hefyd ei orseddfainc ef goruwch yr holl dywysogion oedd gydag ef.
Proverbs 1:9Canys cynnydd gras a fyddant hwy i’th ben, a chadwyni am dy wddf di.
Isaiah 44:25Yn diddymu arwyddion y rhai celwyddog, ac yn ynfydu dewiniaid; yn troi y doethion yn eu hôl, ac yn gwneuthur eu gwybodaeth yn ynfyd: º