Llyfr Daniel 3:12
Y mae gwŷr o Iddewon a osodaist ti ar oruchwyliaeth talaith Babilon, Sadrach, Mesach, ac Abednego; y gwŷr hyn, O frenin, ni wnaethant gyfrif ohonot ti; dy dduwiau nid addolant, ac nid ymgrymant i’r ddelw aur a gyfodaist.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11A phwy byanag ni syrthiai ac nid ymgrymai, y teflid ef i ganol ffwrn o dân poeth.
Cross References
Esther 3:8A Haman a ddywedodd wrth y brenin Ahasferus, Y mae rhyw bobl wasgaredig a gwahanedig ymhlith y bobloedd, trwy holl daleithiau dy frenhiniaeth; a’u cyfreithiau hwynt sydd yn amrafaelio oddi wrth yr holl bobl, ac nid ydynt yn gwneuthur cyfreithiau y brenin; am hynny nid buddiol i’r brenin eu dioddef hwynt.
Ecclesiastes 4:4A mi a welais fod pob llafur, a phob uniondeb gwaith dyn, yn peri iddo genfigen gan ei gymydog. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd..
Daniel 6:13Yna yr atebasant ac y dywedasant o flaen y brenin, Y Daniel, yr hwn sydd o feibion caethglud Jwda, ni wnaeth gyfrif ohonot ti, frenin, nac o’r gorchymyn a seliaist, eithr tair gwaith. yn. y dydd y mae yn gweddïo ei weddi.
Acts 5:28Gan ddywedyd, Oni orchmynasom ni, gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerwsalem â’ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn.