Llyfr Daniel 3:28
Atebodd Nebuchodonosor a dywedodd, Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego, yr hwn a anfonodd ei angel ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo, ac a dorasant orchymyn y brenin, ac a roddasant eu cyrff, rhag gwasanaethu nac ymgrymu ohonynt i un duw, ond i’w DUW eu hun
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 19:15¶ Ac ar godiad y wawr, yr angelion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer dy wraig, a’th ddwy ferch, y rhai sydd i’w cael; rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas.
1 Chronicles 5:20A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid i’w dwylo hwynt, a chwbl a’r a ydoedd gyda hwynt: canys llefasant ar DDUW yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd aarynt, oherwydd iddynt obeithio ynddo.
2 Chronicles 32:21A’r ARGLWYDD a anfonodd angel, yr hwn a laddodd bob cadarn nerthol, a phob blaenor a thywysog yng ngwersyll brenin Asyria. Felly efe a ddychwelodd â chywilydd ar ei wyneb i’w wlad ei hun. A phan ddaeth efe i dŷ ei dduw, y rhai a ddaethant allan o’i ymysgaroedd ei hun a’i lladdasant ef yno â’r cleddyf.
Ezra 6:11Gosodais hefyd orchymyn, pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn, tynner coed o’i dŷ ef, a gosoder i sefyll, ac ar hwnnw croger ef; a bydded ei dŷ ef yn domen am hynny.
Psalms 22:4Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd.