Llyfr Daniel 7:15
Myfi Daniel a ymofidiais yn fy ysbryd yng nghanol fy nghorff, a gweledigaethau fy mhen a’m dychrynasant.
Beibl (1620)
In The King James Version
I Daniel was grieved in my spirit in the midst of my body, and the visions of my head troubled me.
In Context
Cross References
Genesis 41:8A’r bore y bu i’w yspryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aipht a’i holl ddoethion hi: a Pharaoh a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a’u dehonglai hwynt i Pharaoh.
Jeremiah 17:16Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a’i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di. º
Daniel 2:3A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Breuddwydiais freuddwyd, a thrallodwyd fy ysbryd am wybod y breuddwyd.
Daniel 4:19Yna Daniel, yr hwn ydoedd ei enw Beltesassar, a synnodd dros un awr, a’i feddyliau a’i dychrynasant ef. Atebodd y brenin, a dywedodd, Beltesassar, na ddychryned y breuddwyd di, na’i ddehongliad. Atebodd Beltesassar, a dywedodd, Fy arglwydd, deued y breuddwyd i’th gaseion, a’i ddehongliad i’th elynion.
Daniel 7:28Hyd yma y mae diwedd y peth. Fy meddyliau i Daniel a’m dychrynodd yn ddirfawr, a’m gwedd a newidiodd ynof; eithr mi a gedwais y peth yn fy nghalon.
Habakkuk 3:16Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i'm hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a’u difetha hwynt â'i fyddinoedd.