Llyfr Deuteronomium 11:8
Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddyw; fel y byddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe.
Read all of Llyfr Deuteronomium 11
Cross References
Deuteronomy 4:14¶ A’r Arglwydd a orchymynodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau, a barnedigaethau, i wneuthur o honoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu.
Deuteronomy 10:12¶ Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid,
Deuteronomy 28:47Oblegid na wasanaethaist yr Arglwydd dy DDUW mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, am amldra pob dim:
Deuteronomy 31:23Efe a orchymynodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Ymgryfhâ, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i’r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyd â thi.
Psalms 116:12Yr ARGLWYDD a’n cofiodd ni: efe a'n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.
Isaiah 40:31Eithr y rhai a obeithiant yn yr ARGLWYDD a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant, rhodiant, ac ni ddiffygiant.