Llyfr Deuteronomium 11
1Rhoddi y fendith a’r felldith o’u blaen hwynt. Car dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau, a’i orchymynion, byth.
2A chydnabyddwch heddyw: canys nid wyf yn ymddiddan â’ch plant, y rhai nid adnabuant, ac ni welsant gerydd yr Arglwydd eich Duw chwi, ei fawredd, ei law gref, a’i fraich estynedig;
3Ei arwyddion hefyd, a’i weithredoedd, y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Aipht, i Pharaoh brenhin yr Aipht, ac i’w holl dir;
4A’r hyn a wnaeth efe i lu yr Aipht, i’w feirch ef, ac i’w gerbydau; y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi dros eu hwynebau hwynt, pan oeddynt yn ymlid ar eich ol, ac y difethodd yr Arglwydd hwynt hyd y dydd hwn:
5A’r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr anialwch, nes eich dyfod i’r lle hwn;
6A’r hyn a wnaeth efe i Dathan, ac i Abiram, meibion Elïab, mab Reuben; y modd yr agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyngcodd hwynt, a’u teuluoedd, a’u pebyll, a’r holl olud oedd ganddynt, ym mysg holl Israel.
7Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe.
8Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddyw; fel y byddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu:
9Ac fel yr estynoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i’w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
10¶ O herwydd y tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu, nid fel tir yr Aipht y mae, yr hwn y daethoch allan o hono, lle yr heuaist dy had, ac y dyfrheaist â’th droed, fel gardd lysiau:
11Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu, sydd fynydd-dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o wlaw y nefoedd;
12Tir yw, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ymgeleddu: llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.
13¶ A bydd, os gan wrandaw y gwrandêwch ar fy ngorchymynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddyw, i garu yr Arglwydd eich Duw, ac i’w wasanaethu, â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid;
14Yna y rhoddaf wlaw i’ch tir yn ei amser, sef y cynnar-wlaw, a’r diweddar-wlaw; fel y casglech dy ŷd, a’th win, a’th olew;
15A rhoddaf laswellt yn dy faes, i’th anifeiliaid; fel y bwyttâech, ac y’th ddigoner.
16Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon, a chilio o honoch, a gwasanaethu duwiau dïeithr, ac ymgrymmu iddynt;
17Ac ennynu digllonedd yr Arglwydd i’ch erbyn, a chau o hono ef y nefoedd, fel na byddo gwlaw, ac na roddo y ddaear ei chnwd, a’ch difetha yn fuan o’r tir yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei roddi i chwi.
18¶ Am hynny gosodwch fy ngeiriau hyn yn eich calon, ac yn eich meddwl, a rhwymwch hwynt yn arwydd ar eich dwylaw, a byddant yn rhagdalau rhwng eich llygaid:
19A dysgwch hwynt i’ch plant; gan grybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan rodiech ar y ffordd, pan orweddych hefyd, a phan godych.
20Ac ysgrifena hwynt ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth;
21Fel yr amlhao eich dyddiau chwi, a dyddiau eich plant chwi, ar y ddaear yr hon a dyngodd yr Arglwydd wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt, fel dyddiau y nefoedd ar y ddaear.
22¶ Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchymynion hyn, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi i’w gwneuthur, i garu yr Arglwydd eich Duw, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i lynu wrtho ef;
23Yna y gyrr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o’ch blaen chwi, a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi.
24Pob man y sathro gwadn eich troed chwi arno, fydd eiddo chwi: o’r anialwch, a Libanus, ac o’r afon, sef afon Euphrates, hyd y môr eithaf, y bydd eich terfyn chwi.
25Ni saif gwr yn eich wyneb: eich arswyd a’ch ofn a rydd yr Arglwydd eich Duw ar wyneb yr holl dir yr hwn y sathroch arno, megis y llefarodd wrthych.
26¶ Wele, rhoddi yr ydwyf fi o’ch blaen chwi heddyw fendith a melldith:
27Bendith, os gwrandêwch ar orchymynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddyw;
28A melldith, oni wrandêwch ar orchymynion yr Arglwydd eich Duw, ond cilio o honoch allan o’r ffordd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddyw, i fyned ar ol duwiau dïeithr, y rhai nid adnabuoch.
29Bydded gan hynny, pan ddygo yr Arglwydd dy Dduw di i’r tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu, roddi o honot y fendith ar fynydd Garizim, a’r felldith ar fynydd Ebal.
30Onid yw y rhai hyn o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tu a’r lle y machluda yr haul, yn nhir y Canaaneaid, yr hwn sydd yn trigo yn y rhos ar gyfer Gilgal, ger llaw gwastadedd Moreh?
31Canys myned yr ydych dros yr Iorddonen, i fyned i feddiannu y tir y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi i chwi; a chwi a’i meddiennwch ac a breswyliwch ynddo.
32Gwyliwch chwithau am wneuthur yr holl ddeddfau a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu rhoddi o’ch blaen chwi heddyw.